Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 16

16
Cyfarchion Personol
1Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae. 2Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
3Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu, 4deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd. 5Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist. 6Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan. 7Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl â mi, ac a fu'n gydgarcharorion â mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i. 8Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd. 9Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus. 10Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Aristobwlus. 11Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl â mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o dŷ Narcisus. 12Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, chwiorydd sy'n llafurio yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Cyfarchwch Persis, chwaer annwyl sydd wedi llafurio cymaint yn ei wasanaeth. 13Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau. 14Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a'r cyfeillion sydd gyda hwy. 15Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a'i chwaer, Olympas a'r holl saint sydd gyda hwy. 16Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.
17Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt, 18oherwydd nid gwasanaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn. 19Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni. 20Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!#16:20 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Gras… gyda chwi!
21Y mae Timotheus, fy nghydweithiwr, yn eich cyfarch, a hefyd Lwcius a Jason a Sosipater, gwŷr o'r un genedl â mi. 22(Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.) 23Y mae Gaius, a roes ei gartref yn llety i mi ac i'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a hefyd y brawd Cwartus.#16:23 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll! Amen.
Mawlwers
25Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn ôl y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith, 26ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod; 27i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist—iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.#16:27 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan adn. 25–27 yma (gweler y nodiadau ar 14:23 a 15:33).

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 16: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd