Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 1

1
Daniel a'i Gyfeillion yn Llys Nebuchadnesar
1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni. 2A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tŷ Dduw, ac aeth yntau â hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw. 3Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid, 4rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn llên ac iaith y Caldeaid. 5Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys. 6Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; 7ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego.
8Penderfynodd Daniel beidio â'i halogi ei hun â bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi. 9Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel, 10ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, “Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd.” 11Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia, 12“Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed, 13ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda.” 14Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod. 15Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. 16Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.
17Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd. 18Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar. 19Ar ôl i'r brenin siarad â hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin. 20A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas. 21A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.

Dewis Presennol:

Daniel 1: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd