Y Salmau 32:1-6
Y Salmau 32:1-6 BCND
Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd. Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd. Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio â chuddio fy nrygioni; dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat ti yn nydd cyfyngder, a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr, ni fyddant yn cyrraedd ato ef.





