Mathew 17:1-9
Mathew 17:1-9 BCND
Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd, ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni. A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno.” A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt. Daeth Iesu atynt a chyffwrdd â hwy gan ddweud, “Codwch, a pheidiwch ag ofni.” Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu yn unig. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.”
![[Uniqueness of Christ] Jesus’ Unique Record Mathew 17:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F34612%2F1440x810.jpg&w=3840&q=75)




