Yr Actæ 24
24
Pen. xxiiij.
Paul wedy ei gyhuddaw yn atep dros ei vuchedd a’i ddysceidaeth yn erbyn ei gyhvddwyr: Felix yn y deimlaw ef, a’ ei vryd ar gael gobr. Ac yn ol hynny yn ei ady ef yn‐carchar.
1AC yn ol pemp diernot, y daeth y waeret Ananias yr Archoffeiriat y gyd a’r Henafieit, ac Tertullus rryw areithiwr, yr ei a #24:1 * ymddangesontapariesont ger bron y President yn erbyn Paul. 2A’ gwedy ei ’alw #24:2 ef ir lle, e ddechreawdd Tertullus ei guhuddaw, gan ddywedyt, Can y ni vot yn byw yn dra heddychol oth bleit ti, a’ bot gwneythyr llawer o bethe gwiw, ir genedl hon drwy dy #24:2 ‡ rrac ddarparracddyall di, 3Hyn yð ym ni yn #24:3 cydnabot yn #24:3 ‡ gwblhollawl, ac ym‐pop lle, yr #24:3 * goreuardderchocaf Felix, y gyd a chwbyl ddiolvvch. 4Eithr rac bot ymy dy ðalha yn rryhir ddygn, atolwc yty ein gwrandaw oth #24:4 ‡ boneddigeiddrwyddhynawster ar ychydic ’airiae. 5Can ys cawsam y gwr hwnn yn ddyn adwythus, ac yn #24:5 * cynnyrfy, pericyffroy tervysc ymplith yr holl Iuddaeon trwy’r holl oll vyt, ac yn #24:5 ‡ benawdurbrifnerthwr ar yr #24:5 * opinionheresi y Nazarieit, 6ac a #24:6 ‡ darperesei, amcaneseivynysei halogy y Templ: ac am hyny y daliesam ef, ac a vynesem ei varny #24:6 * erwyð ein cyfraithyn ol ein Deddyf: 7Eithyr y pen‐Captaen Lysias #24:7 ‡ ar ein vchaf, ar ein gwarthafa ddaeth arnam, a’ thrwy drais mawr ei duc allan o’n dwylo, 8gan orchymyn ydd ei guhuddwyr ddyvot ata ti, y gan ba rei y gelly (a’s myny ymofyn )wybot yr oll pethae hynn yð ym ni yn y gyhuddaw #24:8 * efev. 9A’r Iuddaeon hvvythe hefyt a daeresant, gan ddywedyt vot y peth y moð hynny. 10Yno Paul, gwedy amneidio o’r President arnaw y amadrawddd a atebawdd, Y mae yn #24:10 ‡ llawenachhaws genyf atep troso vyhun, can vy‐bot yn gwybot dy vot ti lawer o vlyddynedd yn #24:10 * vawdwr, barnwr, Ieustusynat ir genadleth hon, 11can ys gelly wybot, nad oes anid dauddec dieernot er pan ðaethym i vynydd i addoly i Caerusalem. 12Ac ny im cawsant i yn y Templ yn #24:12 ‡ disputoymddadleu a nep, nac yn #24:12 * peri cyffro yn y populcyffroy yr dyrva y #24:12 ‡ cynulleidfaegyvodi, nac yn y #24:12 Synagogae, nac yn y dinas. 13Ac ny allant chvvaith provi y pethae, y maent im cuhuddaw am danwynt. 14Eithr cyffessy yty ddwyf hyn yma, #24:14 * tawmae yn ol y fforð (rhon y alwant vvy yn heresi) velly yr addolaf vi Ddew vy‐tadae, sef gan gredy yn yr oll pethe r’ y scrivenir yn y Ddeðyf a’r Prophwyti, 15a’ gobeith ’sy genyf ar Ddew, am yr vn cyfodiadigeth y meirw ac y maent wytheu hefyt yn ei ddysgwyl, y bydd ef #24:15 ‡ acys ir cyfiawnion ac ir ancyfiawnion. 16Ac yn hyn ydd wy vi #24:16 * ymorchestyystudio vot genyf yn wastad gydwybot #24:16 ‡ iach, glirddirwystr tu ac Ddew a’ thu ac at ðynion. 17Ac yrovvon yn ol llawer o vlyddynedd, y daethym ac y dugeis #24:17 * elusendoteluseni im cenedleth ac offrymae. 18Ac yn yr amser hynn, ’rei or Iuðeon o’r Asia am cawsant #24:18 ‡ yn buredicwedy vy‐glanhay yn y Templ, ac nid gyd a thorf, na thervysc. 19#24:19 Yr ei a #24:19 * ddirparesyntddylesynt vot yn #24:19 ‡ presennolgynnyrchiol rac dy vron, am cyhuddaw, a bysei ganddwynt ddim im erbyn. 20Ai ynte dywedet yr ei hyn yma, a gawsant vvy ðim ancyfion #24:20 * arnafynof, tra sefeis yn y Cyngor, 21#24:21 ‡ aniddieithr am y #24:21 * yr ymadroddllef vnic hon, a ’r a lefeis yn sefyll yn ei plith vvy, sef Am gyfodiadigeth y meirw im #24:21 ‡ cyhuddirbernir heddyw genwch. 22Pan glybu Felix y pethae hynn, yr oedawdd ef wynt, gan ddywedyt, Pan wypwyf yn #24:22 * hytrach berfeithiathyspesach y pethae a perthyn ir ffordd hon, pan vo i Lysias y pen‐Captaen ddyvot yma, y dosparthaf eich mater. 23Yno ydd archawdd i Gannwriat gadw Paul, a gadael iddaw gahel #24:23 ‡ esmythdergorffywys, ac na ’oharddei i neb oei gydnabot ei weini, nei ddyvot attaw.
24Yn ol #24:24 * niuertalm o ddyddiae, yd aeth Felix ef aei wreic Drusilla, yr hon ytoeð Iuddewes, ac ef a ’alwodd am Paul, ac a glywawdd ganthaw am y ffydd ys ydd yn Christ, 25Ac mal ydd oedd ef yn #24:25 ‡ rresymydosparth am gyfiawnder, a’ #24:25 * cymesurdepchymmedroldep, ac am y varn y ddyvot, Felix a ddechrynawdd, ac a atebawdd, Does ymaith #24:25 ‡ drosar hyn o amser, anid pan gaffwy amser‐cyfaddas, mi alwaf am danat. 26Ac ydd oedd ef yn gobeithio hefyt y rhoddesit ariant iddaw gan Paul, er iddo ei ellwng ef: erwyð pa bleit yd avonodd ef am danaw yn vynychach, ac y #24:26 * ymddiddanodd ac efchwedleuawdd wrthaw. 27A’ gwedy cerddet dwy #24:27 ‡ vlyneddvlwyddyn, y daeth Porcius Festus yn lle Felix: a’ Felix yn ewyllysio enill bodd yr Iuddaeon, a adawdd Paul yn #24:27 * carcharrhwym.
Dewis Presennol:
Yr Actæ 24: SBY1567
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.