2. Corinthieit 1
1
Pen. j.
Datcan y mae ef vaint y budd a ddaw ir ffyddlonieit ywrth ei cystuddedic dravaelon. A’ rhac yddyn vwrw yn yscavnder meddwl arnaw, ddarvod iddo oedi ei ddyvodiad yn erbyn ei addewid, y mae ef yn provi ei ddwysfryd ai ddianwadalwch, yn gystal gan ei burdep yn precethu, a’ hefyt gan ddiysmudedic wirionedd yr Euangel. Yr hon wirionedd a ddysylir ac a’rwndwelir a’r Christ, ac a inselir yn ein calonae gan yr Yspryt glan.
1PAul Apostol Iesu Christ trwy #1:1 * gan wrthewyllys Duw, a’n brawd Timotheus, at Eccles Duw, ys ydd yn Corinthus y gyd a’r oll Sainctæ, yr ei ’sydd yn Achaia: 2Rat vo gyd a chwi, a’ thāgneðyf y #1:2 ‡ wrthgan Duw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ. 3Bēdigedic yvv Duw ’sef Tat Arglwydd Iesu Christ, Tat y trugareddae, a’ Duw yr oll #1:3 * gonfort, ddyhuðiantddiddanwch, 4yr hwn a’n diðana ni yn ein ol’ #1:4 ‡ vlinder, trallod, travael,’orthrymder, val y gallom ðiðanu yr ei ’sy mewn #1:4 * neb, vndim gorthrymder, trwy ’r diddanwch in diddenir ninheu gan Dduw. 5Can ys megis yr amlheir dyoddefiadae Christ ynom, velly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Christ. 6A’ phwy vn bynac ai in gorthrymer, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn ryw ddyoddefiadae, yr ei ddym ni hefyd yn y dyoddef: ai diddaner ni, er diddanwch ac iechedvvrieth y chwi ydyvv. 7Ac y mae ein gobeith yn #1:7 ‡ ddilys, ddiogelffyrf am danoch, can y ni wybot megis ac ydd ych’ yn gyfranocion o’r dyoddefiadae, velly y byddvvch hefyt gyfranoc o’r diddanwch. 8Can ys vroder, ny vynē ywch’ anwybot am ein gorthrymdr, y #1:8 * ddaeth, wnaed avu i ni yn yr Asia, sef val y pwyswyt arnam #1:8 ‡ dros vesur ytuhwnt in nerthyn anveidrawl dros ben ein gallu, megis ydd oeddem‐mewn‐trachyfing-gyngor, #1:8 * sef am einac am yr #1:8 ‡ bywyt, hoedl,einioes. 9Do, ni a dderbyniesam varn angeu ynam, val na ’obeithem ynam ein hunain, anyd yn#1:9 * yn‐uw‐Duw, yr hwn a gyvyd y meirw. 10Yr hwn a’n gwaredawdd ni ywrth gyfryw ddirvawr #1:10 * beriglangeu, ac ’sy yn ein gwaredu: yn yr hwn #1:10 ‡ yr ymddiriedwny gobeithiwn, in gwareda rhac llaw, 11a’s chvvychwi a gydweithiwch yn‐gweddi trosam, pan yw tros y dawn a roddet y ni er mvvyn llawer, bod roi diolvvch gan lawer dyn y trosam. 12Can ys ein #1:12 * gorawen, llawenyddgorvoledd ni yw hyn, sef testiolaeth ein cydwybot, can ys yn #1:12 ‡ diblyc, gwiriondebsymlder a’ duwiol burdep, ac nyd yn‐doethinep cnawdawl, anyd gan rat Duw y bu i ni #1:12 ‡ ymddwynymgydtro yn y byt, ac yn #1:12 * bennafben ddivaddef tu ac ato‐chwi. 13Can nad ym yn scrivennu amgenach betheu atoch’, nac y ddarllenwch, neu ar ydd ych yn ei cydnabot, ac a ’obeithaf y cydnabyddwch yd y dywedd. 14Sef megis y cydnabuoch ni o ran, ein bot yn orvoledd ychwi, megis ac ydd yw chwithe i ninheu, yn‐dydd #1:14 * einyr Arglwydd Iesu. 15Ac #1:15 ‡ aryn y gobaith hyn ydd oedd im bryd i ddyvot atoch #1:15 * yn y blaeny tro cyntaf, val y caffech #1:15 ‡ ailddau rat, 16a’ myned hebo‐chwi i Macedonia, a’ dyvot drachefn o Macedonia atoch, a’ chael vy #1:16 * arwainhebrwng genwch tua Iudaia. 17Can hyny pan oeddwn yn #1:17 ‡ bwriadu, meddwlamcanu val hyn, a arverwn i o yscavnder? neu wyfi yn amcanu y petheu ’r wy ’n amcanu, erwdd y cnawd, val y byddei gyd a myvi, #1:17 ‡ Ie, ie, ac Nag ef, nag efDo, do, ac Na ddo, na ddo. 18Sef ys ffyddlon yw Duw, na bu ein gair tu ac atoch, Do, ac Na ddo. 19Can ys Map Duw Iesu Christ yr hwn a precethwyt yn eich plith chvvi genym ni, ’sef myvi, a’ Siluanus a’ Thimotheus, nyd ytoedd, #1:19 * Ie ac Nac efDo, ac Na ðo: eithyr yndo ef, #1:19 ‡ IeDo y doedd. 20Can ys oll addewidion Duw yndo ef ynt #1:20 Do, ac ynt yndaw ef Amen, er gogoniant Duw trwyddom ni. 21A’ Duw yw ’r hwn a’n cadarna ni y gyd a chwi yn‐Christ, ac a’n #1:21 ‡ iroddenneinioð ni. 22Yr hwn hefyt a’r inseliawð, ac a roes #1:22 * wystleidethernes yr Yspryt yn ein calonau. 23Ac ydd wy vi yn galw Duw yn test i’m enait, may i’ch arbed chwi, na ddaethym i #1:23 ‡ etoyd hynn i Corinthus. 24Nyd can eyn bot yn arglwyðiaw ar eich ffyð chvvi, anyd ein bot yn #1:24 * cyd‐ðirprwywyrganhorthwywyr ich llawenyð: can ys gan ffydd y sefwch.
Dewis Presennol:
2. Corinthieit 1: SBY1567
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.