Y Salmau 91
91
SALM XCI
Qui habitat.
Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i’r rhai a’i hofnant ac a’i carant ef, o ddiogelrwydd a gogoniant tragwyddol.
1Y sawl a drigo, doed yn nes,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerys i gael bod
ynghysgod hwn sydd bennaf.
2Fy holl ymddiffyn wyd a’m llwydd,
wrth fy Arglwydd y dwedaf:
A’m holl ymddiried tra fwy fyw
sydd yn fy Nuw Goruchaf.
3Cans ef a weryd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr:
A hefyd oddiwrth bla, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr.
4Ei esgyll drosod ef a rydd,
dan ei adenydd byddi
Yn ddiogel: a’i wiredd gred
fydd gylch a bwccled itti.
5Ni ddychryni er twrf y nos,
na’r dydd o achos hedsaeth.
6Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,
neu hanner dydd marwolaeth.
7Wrth dy ystlys y cwympa mil,
a dengmil o’th law ddeau:
Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,
a thi a’i gwyl yn ddiau.
8A’th lygaid y gweli di dâl
i’r enwir gwammal anian.
9Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)
ac uchel yw dy drigfan.
10Ni ddigwydd niwed yt’, ond da,
na phla, na dim’ echrydon,
I’th Eglwys a’th gynlleidfa nawdd,
11cans archawdd iw Angylion.
I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,
a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,
12Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)
taro dy droed wrth garreg.
13Dy sangfa fydd ar y llew dig,
a’r asp wenwynig sethri:
Ar greulon genau’r llew o’r graig,
ac ar y ddraig y sengi.
14Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf:
Am adnabod fy enw mau,
yn ddiau y derchafaf.
15Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,
a chaiff drwy urddas fowrglod.
16Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,
caiff yn y byd hir ddyddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a’m iechydwriaeth innau.
Dewis Presennol:
Y Salmau 91: SC
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017