Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 75

75
SALM LXXV
Confitebimurtibi.
Mawl i Dduw, a dangos y daw ef i farnu, er codi y cyfion a gostwng y drwg.
1Clodforwn di (dragwyddol Dduw)
a’th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a’th nerth i’th hynt
dy wrthiau ynt iw ddangos.
2Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
mi a rof farn gu ac union.
3Fel y nerthais sylfeini’r byd
oedd rydd, a’i gyd-trigolion.
4Minnau a ddwedais hyn o’m bryd
wrth y rhai ynfyd, peidiwch,
Wrth annuwiolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch,
5Och: na dderchefwch chwi mo’ch cyrn,
na siglwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-syth
nid rhaid yn’ fyth mo’r gofal.
6Oherwydd, nid o’r dwyrain draw
i ddyn y daw derchafiad,
Nid o’r gorllewin, na’r deau,
y daw i chwithau godiad.
7Cans ar law Duw y mae y farn,
na fid gwr cadarn rygry’,
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi’r llall y fory.
8Cans yn llaw’r Arglwydd phiol sydd,
cymysgwin hyd wydd ynddi,
Tywalldodd hwn: drwg ddynion byd
yfant i gyd o honi.
9Mynegaf finnau ac i’m cof,
ei gerdd (Duw Jagof) canaf:
10Torraf gyrn yr annuwioliawn,
a phen y cyfiawn codaf.

Dewis Presennol:

Y Salmau 75: SC

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda