Y Salmau 67
67
SALM LXVII
Deus misereatur.
Gweddi am lewych wynebpryd Duw, fel yr adwaener ei farnedigaethau. A dangos mai Duw sy’n llywodraethu pob peth.
Caner hon fel Psal. 51
1Trugaredd Duw i’n plith,
a rhoed ei fendith drosom:
A thywynned ei wynebpryd,
a’i nawdd, a’i iechyd arnom.
2Fel y gwyper dy ffyrdd
drwy’r ddaiar gydwyrdd gnydoedd:
A’th iechydwriaeth di (o Dduw)
y’mysg pob rhyw genhedloedd.
3Duw: moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri drwy’r hollfyd.
4A’r holl genhedloedd is wybren,
byddant lawen a hyfryd.
Cans ti a ferni’n iawn
y bobl drwy lawn wybodaeth,
Ac a roi’r holl genhedloedd ar
y ddaiar mewn llywodraeth.
5Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri trwy’r hollfyd.
6Yna rhydd y tir ffrwyth i’n plith,
a Duw ei fendith hefyd.
7A Duw, sef Duw ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant:
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a’i hofnant.
Dewis Presennol:
Y Salmau 67: SC
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017