Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 133

133
SALM CXXXIII
Ecce quam.
Clod cariad brawdol, a’i gyffelybu i’r olew yn y 30. pen. o Exodus.
1Wele fod brodyr yn byw ’nghyd,
mor dda, mor hyfryd ydoedd:
2Tebyg i olew o fawr werth,
mor brydferth ar y gwisgoedd.
Fel pe discynnai draw o’r nen,
rhyd barf a phen offeiriad.
Sef barf Aron a’i wisg i gyd,
yn hyfryd ei arogliad.
3Fel pe discynnai gwlith Hermon
yn do dros Seion fynydd,
Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlith
ei fendith, yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 133: SC

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda