Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 131

131
SALM CXXXI
Domine non est.
Dafydd yn ymwrthod â blarchder gar bron Duw.
1Yn fy nghalon ni bu falch chwydd,
o Arglwydd, na dim tynder,
Ni chodais chwaith drahaus wg
i’m golwg o dra uchder.
2Ac ni rodiais yma a thraw,
i dreiglaw pethau mowrion:
Ni fanwl chwiliais am wybod
rhyfeddod a dirgelion.
3Gostyngais f’enaid i mewn pryd,
fel pan ddiddyfnyd herlod:
Fy enaid sydd fel un a fu
gwedi ei ddiddyfnu’n barod.
4Ond disgwilied ty Israel
wrth wir Imanuel beunydd,
Sef wrth yr Arglwydd o’r pryd hyn,
heb derfyn yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 131: SC

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda