Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi; ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn was i chwi. A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn gaethwas i chwi. Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.’