Esgynwch i’r mynydd a dygwch goed,
Ac adeiladwch y tŷ:
A mi a ymhyfrydaf ynddo,
A mi a ogoneddir,
Medd yr Arglwydd.
Edrychwyd am lawer,
Ac wele ychydig oedd;
A dygasoch adref;
A chwythais arno:
Am ba beth,
Medd Arglwydd y lluoedd:
Am fy nhŷ yr hwn sydd yn anghyfanedd;
A chwithau yn rhedeg bob un i’w dŷ ei hun.