‘Ewch i’r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu’r deml;
bydd hynny’n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’
–meddai’r ARGLWYDD.
‘Roeddech chi’n disgwyl cnydau da,
ond yn cael cnydau gwael.
Roeddech chi’n ei gasglu,
ond yna byddwn i’n ei chwythu i ffwrdd!’
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau’n rhy brysur yn poeni amdanoch chi’ch hunain!