1
Lyfr y Psalmau 63:1
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
SC1850
Tydi, O Dduw, yw ’m Harglwydd i; Yn fore glas y’th geisiaf Di; Sycheda ’m henaid am dy ras: Hiraethu ’n ddwys y nos a’r dydd Am danat mae fy nghalon brudd, Mewn gwlad heb ddwfr, mewn crindir cras.
Cymharu
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:1
2
Lyfr y Psalmau 63:3
Gwell yw na ’r bywyd im’ dy ras, Mae ’n ganmil gwell ei werth a’i flas; Fe ’th fola ’m genau, Arglwydd cu.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:3
3
Lyfr y Psalmau 63:4
Fel hyn y’th folaf tra bwyf byw; Fy nwylaw yn dy Enw gwiw Dyrchafaf tu a’th Gafell lân
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:4
4
Lyfr y Psalmau 63:2
O na chawn weled d’ allu ’n awr, Ac edrych ar d’ ogoniant mawr, Fel gynt, ynghafell lân dy Dŷ!
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:2
5
Lyfr y Psalmau 63:7-8
Cefais Di ’n gymmorth immi gynt, Buost yn nawdd a nerth i mi; A gorfoleddaf finnau mwy Ynghysgod dy adenydd Di. Fy enaid wrthyt, Ior, a lŷn; Dy ddehau law a’m cynnal mwy
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:7-8
6
Lyfr y Psalmau 63:6
Mi ’th gofiaf yn fy ngwely’r nos, Pan guddio dunos ddaear las; A threulio ’r tywyll oriau wnaf Mewn dwys fyfyrdod am dy ras.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 63:6