1
Lyfr y Psalmau 62:8
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
SC1850
Chwychwi, drigolion byd, bob awr Gobeithiwch yn ei Enw gwiw; Eich calon oll, heb rith, o’i flaen Tywelltwch; noddfa ’n henaid yw.
Cymharu
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:8
2
Lyfr y Psalmau 62:5
Wrth Dduw disgwyliaf yn ddi‐ball, Ac nid wrth arall ond Efe: Gosodais, (ac ni’m siommir chwaith,) Fy unig obaith yn Nuw ne’.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:5
3
Lyfr y Psalmau 62:6
Efe fy nghraig yn unig yw Fy iechyd ydyw Arglwydd nef; Efe yw ’m hamddiffynfa wir, Ni ’m mawr ysgogir ynddo Ef.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:6
4
Lyfr y Psalmau 62:1
Wrth Dduw disgwyliaf yn ddi‐ball, Ac nid wrth arall ond Efe; I mi mewn cyflwr caeth y daw Fy iachawdwriaeth o Dduw ne’.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:1
5
Lyfr y Psalmau 62:2
Efe fy nghraig yn unig yw, Fy iechyd ydyw Arglwydd nef; Efe yw f’ amddiffynfa wir, Ni ’m mawr ysgogir ynddo Ef.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:2
6
Lyfr y Psalmau 62:7
Yn Nuw mae’m hiachawdwriaeth fawr, Fy urddas a’m gogoniant yw; Fy nghadarn graig, fy noddfa gref, Yw sanctaidd Enw ’r Arglwydd Dduw.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 62:7