1
Eseia 45:3
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
BWM
Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw DUW Israel.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 45:3
2
Eseia 45:2
Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf
Archwiliwch Eseia 45:2
3
Eseia 45:5-6
Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid arall, nid oes DUW ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall
Archwiliwch Eseia 45:5-6
4
Eseia 45:7
Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll.
Archwiliwch Eseia 45:7
5
Eseia 45:22
Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf DDUW, ac nid neb arall.
Archwiliwch Eseia 45:22
6
Eseia 45:1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir
Archwiliwch Eseia 45:1
7
Eseia 45:23
I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.
Archwiliwch Eseia 45:23
8
Eseia 45:4
Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
Archwiliwch Eseia 45:4