1
Eseia 44:3
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
BWM
Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth
Cymharu
Archwiliwch Eseia 44:3
2
Eseia 44:6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a’i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes DUW ond myfi.
Archwiliwch Eseia 44:6
3
Eseia 44:22
Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a’th bechodau fel niwl: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di.
Archwiliwch Eseia 44:22
4
Eseia 44:8
Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes DUW ond myfi? ie, nid oes DUW: nid adwaen i yr un.
Archwiliwch Eseia 44:8
5
Eseia 44:2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
Archwiliwch Eseia 44:2