1
S. Matthew 27:46
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef fawr, gan ddywedyd, ELI, ELI, LAMA SHABACTHANI?
Cymharu
Archwiliwch S. Matthew 27:46
2
S. Matthew 27:51-52
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd; a’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint oedd yn huno
Archwiliwch S. Matthew 27:51-52
3
S. Matthew 27:50
A’r Iesu, wedi gwaeddi etto â llef fawr, a ymadawodd â’r yspryd.
Archwiliwch S. Matthew 27:50
4
S. Matthew 27:54
A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn.
Archwiliwch S. Matthew 27:54
5
S. Matthew 27:45
Ac o’r chweched awr tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr
Archwiliwch S. Matthew 27:45
6
S. Matthew 27:22-23
Dywedodd Pilat wrthynt, Pa beth, gan hyny, a wnaf i’r Iesu, yr Hwn a elwir Crist? Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef.
Archwiliwch S. Matthew 27:22-23