Mathew 27:22-23
Mathew 27:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly, beth dw i i’w wneud gyda’r Iesu yma, sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi’i wneud o’i le?” Ond dyma nhw’n dechrau gweiddi’n uwch, “Croeshoelia fe!”
Rhanna
Darllen Mathew 27Mathew 27:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.”
Rhanna
Darllen Mathew 27Mathew 27:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
Rhanna
Darllen Mathew 27