Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn; canys yn yr un modd ag yr oeddynt yn y dyddiau hyny, y rhai cyn y diluw, yn bwytta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodi, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, ac ni wybuant nes y daeth y diluw ac y cymmerth hwynt oll; felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.