Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi,
Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat,
Pa sawl gwaith y mynnais gasglu ynghyd dy blant,
Yn y modd y cyd-gasgl giar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni fynnech!
Wele, gadewir i chwi eich tŷ yn anghyfannedd, canys dywedaf wrthych,
Myfi ni welwch ddim o hyn allan, nes dweyd o honoch,
Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.