1
S. Matthew 14:30-31
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
ac wrth weled y gwynt, dychrynwyd ef; ac wedi dechreu suddo, gwaeddodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi. Ac yn uniawn yr Iesu, wedi estyn Ei law, a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, O ddyn o ychydig ffydd, paham yr ammeuaist?
Cymharu
Archwiliwch S. Matthew 14:30-31
2
S. Matthew 14:30
ac wrth weled y gwynt, dychrynwyd ef; ac wedi dechreu suddo, gwaeddodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.
Archwiliwch S. Matthew 14:30
3
S. Matthew 14:27
Ac yn uniawn y llefarodd yr Iesu wrthynt
Archwiliwch S. Matthew 14:27
4
S. Matthew 14:28-29
gan ddywedyd, Byddwch hyderus: Myfi yw: nac ofnwch. A chan atteb Iddo, Petr a ddywedodd, Arglwydd, os Tydi yw, arch ddyfod o honof Attat Ti ar y dwfr. Ac Efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi disgyn o’r cwch, Petr a rodiodd ar y dwfr, i ddyfod at yr Iesu
Archwiliwch S. Matthew 14:28-29
5
S. Matthew 14:33
a’r rhai oedd yn y cwch a addolasant Ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw wyt Ti.
Archwiliwch S. Matthew 14:33
6
S. Matthew 14:16-17
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant Wrtho, Nid oes genym yma ond pum torth a dau bysgodyn.
Archwiliwch S. Matthew 14:16-17
7
S. Matthew 14:18-19
Ac Efe a ddywedodd, Dygwch hwynt i Mi, yma. Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd led-orwedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wedi edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd; ac wedi torri, rhoddodd y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
Archwiliwch S. Matthew 14:18-19
8
S. Matthew 14:20
A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt: a chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, ddeuddeg cawell yn llawn.
Archwiliwch S. Matthew 14:20