1
S. Matthew 13:23
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair ac yn deall; yr hwn, yn wir, sy’n ffrwytho, ac yn dwyn, peth ei ganfed, ac arall ei dri-ugeinfed, ac arall ei ddegfed ar hugain.
Cymharu
Archwiliwch S. Matthew 13:23
2
S. Matthew 13:22
A’r hwn a hauwyd ymhlith y drain, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair; a phryder bywyd a thwyll golud sy’n tagu’r Gair, ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.
Archwiliwch S. Matthew 13:22
3
S. Matthew 13:19
Pob un y sydd yn clywed gair y deyrnas, ac nad yw yn deall, dyfod y mae’r drwg, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef; hwn yw’r hyn a hauwyd ar ymyl y ffordd.
Archwiliwch S. Matthew 13:19
4
S. Matthew 13:20-21
Ac yr hwn a hauwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un sy’n clywed y Gair, ac yn uniawn gyda llawenydd yn ei dderbyn ef; ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am amser y mae; ac wedi digwydd gorthrymder neu erlid oblegid y Gair, yn uniawn y tramgwyddir ef.
Archwiliwch S. Matthew 13:20-21
5
S. Matthew 13:44
Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor a guddiwyd yn y maes, yr hwn wedi ei gaffael gan ddyn, a guddiodd efe, ac o’i lawenydd myned ymaith y mae, a’r cwbl, cymmaint ag sydd ganddo, a wertha efe, a phrynu’r maes hwnw y mae.
Archwiliwch S. Matthew 13:44
6
S. Matthew 13:8
Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a dygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, a pheth ar ei dri-ugeinfed, a pheth ar ei ddegfed ar hugain.
Archwiliwch S. Matthew 13:8
7
S. Matthew 13:30
Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf; ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er mwyn eu llosgi; ond y gwenith cesglwch i’m hysgubor.
Archwiliwch S. Matthew 13:30