1
Eshaiah 45:3
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
A rhoddaf i ti drysorau ’r tywyllwch, A (chyfoeth) dirgeledig y cuddfëydd, Fel y gwypych mai Myfi (yw) IEHOFAH, Yr Hwn a’th alwodd erbyn dy enw, Duw Israel.
Cymharu
Archwiliwch Eshaiah 45:3
2
Eshaiah 45:2
Myfi a âf o’th flaen di, A ’r mynyddoedd a wastattâf, Y dorau pres a chwilfriwiaf, A’r barrau heiyrn a ddrylliaf.
Archwiliwch Eshaiah 45:2
3
Eshaiah 45:5-6
Myfi (yw) IEHOFAH, ac nid (oes) arall, Heblaw Fi nid (oes) Duw. Gwregysaf di, er na ’m hadweinit, Er mwyn iddynt wybod o godiad haul, Ac o’r gorllewin, nad neb ond Myfi, Mai Myfi (yw) IEHOFAH, ac nad arall
Archwiliwch Eshaiah 45:5-6
4
Eshaiah 45:7
Lluniwr goleuni, a Chreawdydd tywyllwch, Gwneuthurwr heddwch, a Chreawdydd drygfyd; Mai Myfi IEHOFAH (yw) Gwneuthurwr yr holl bethau hyn.
Archwiliwch Eshaiah 45:7
5
Eshaiah 45:22
Trôwch attaf fel y caffoch iachawdwrieth, holl gyrrau ’r ddaear, Canys Myfi (sy’) Dduw, ac nid (oes) arall.
Archwiliwch Eshaiah 45:22
6
Eshaiah 45:1
Fel hyn y dywed IEHOFAH wrth Ei enneiniog, Wrth Cyrus, yr hwn yr ymaflaf Fi yn ei ddeheulaw I ddarostwng o’i flaen ef genhedloedd; A llwynau brenhinoedd a ddadwregysaf; I agoryd o’i flaen ef ddorau, A’r pyrth ni cheuir.
Archwiliwch Eshaiah 45:1
7
Eshaiah 45:23
I’m Fy hun y tyngais, aeth allan o’m genau wirionedd, Gair, ac ni ddychwel, Mai i Mi y plyga pob glin, y twng pob tafod
Archwiliwch Eshaiah 45:23
8
Eshaiah 45:4
Er mwyn Iacob Fy ngwas, Ac Israel Fy etholedig, Y ’th elwais erbyn dy enw, Y cyfenwais di er na ’m hadweinit.
Archwiliwch Eshaiah 45:4