1
Mathew 27:46
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 27:46
2
Mathew 27:51-52
A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno.
Archwiliwch Mathew 27:51-52
3
Mathew 27:50
Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.
Archwiliwch Mathew 27:50
4
Mathew 27:54
Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.”
Archwiliwch Mathew 27:54
5
Mathew 27:45
O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
Archwiliwch Mathew 27:45
6
Mathew 27:22-23
“Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.”
Archwiliwch Mathew 27:22-23
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos