Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 2 Corinthiaid 5:15

Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud.
5 Diwrnod
Ein tueddiad naturiol i edrych i'r dyfodol, ond ni ddylem byth anghofio y gorffennol. Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio ar dy gyfer dros gyfnod o bum niwrnod fel dy fod yn cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud i'th siapio i'r math o berson yr wyt ti heddiw. Byddi'n derbyn darlleniad a defosiwn byr bob dydd fydd wedi'u creu i'th helpu i gofio'r prif ddigwyddiadau ar dy daith gydag Iesu.

Bywyd o Ddyfnder
5 Diwrnod
Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul Tripp
12 Diwrnod
Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.