Haggai 2
2
PEN. II.—
1Yn y seithfed mis, a’r unfed dydd ar ugain i’r mis y bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd:
2Dywed yn awr wrth Zerubabel, mab Shaltiel, llywydd#o lwyth. LXX. Judah, ac wrth Jehoshua. mah Jehosadac, yr offeiriad mawr, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd:
3Pwy yn eich plith a adawwyd,
Yr hwn a welodd y tŷ hwn;
Yn ei ogoniant cyntaf:
A pha beth y gwelwch chwi ef yn awr,
Onid yw fel y mae efe#wrth hwnw. megys dim yn eich golwg.
4Ond yn awr ymgryfha Zerubabel,
Medd yr Arglwydd,
Ac ymgryfha, Jehoshua, mab Jehosadac yr offeiriad mawr,
Ac ymgryfhewch holl bobl y wlad, medd yr Arglwydd,
A gweithiwch:#gwnewch, a gwnewch (canys yr wyf, &c.,) y gair a ammodais. Vulg.
Canys yr wyf fi gyda chwi,
Medd Arglwydd y lluoedd.
5Y gair yr hwn a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aipht;
A’m hysbryd sydd yn aros yn eich mysg:
Nac ofnwch.
6Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Eto unwaith#eto unwaith. LXX. Hebr. xiii 26 eto un amser yr wyf yn cynhyrfu Syr. mewn ychydig,#eto un ychydigin sydd. Vulg.
A mi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear;
A’r môr a’r sychdir.
7A mi a ysgydwaf#a chydysgydwaf yr. LXX. yr holl genedloedd;
A daw dymuniant#dewisol bethau. LXX. a dygant ddymuniant. Syr. daw dymunedig un. Vulg. yr holl genedloedd:
A llanwaf y tŷ hwn â gogoniant;
Medd Arglwydd y lluoedd.
8Eiddof fi yr arian ac eiddof fi yr aur;
Medd Arglwydd y lluoedd.
9Bydd mwy gogoniant#mwy fydd gogoniant diweddaf y tŷ hwn na’r cyntaf. LXX. bydd mawr gogon. y—mwy na’r cyntaf. Syr. mwy nag eiddo y cyntaf. Vulg. y tŷ diweddaf hwn na’r cyntaf:
Medd Arglwydd y lluoedd:
Ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd;
Medd Arglwydd y lluoedd.
10Yn y pedwerydd dydd ar ugain, o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Darius y bu gair yr Arglwydd trwy law#trwy Haggai. Haggai y proffwyd gan ddywedyd: 11Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; gofyn yn awr y gyfraith#hyfforddiant, gofynwch am y gyfr. gan yr. Syr. i’r offeiriaid gan ddywedyd: 12wele dwg un#os cymer gŵr. LXX. Vulg. gig santaidd yn nghwr ei wisg, ac a gyffwrdd â’i gŵr#o gŵr ei. LXX. â’r bara, ac#neu. LXX. Vulg. a’r isgell, ac â’r gwin, ac â’r olew, ac â phob bwyd; a fydd efe santaidd? a’r offeiriaid a atebasant#atebent, ddywedent. ac a ddywedasant, Na fydd. 13A Haggai a ddywedodd: Os cyffwrdd un a fo aflan gan gorff#aflan o berson. aflan o enaid. Vulg. marw â dim#â phawb. Hebr. o’r pethau hyn, a fydd efe yn aflan? a’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Bydd yn aflan. 14Ac atebodd Haggai ac a ddywedodd,
Felly y mae y bobl hyn ac felly y mae y genedl hon ger fy mron I,
Medd yr Arglwydd:
Ac felly y mae holl waith ei dwylaw:
A’r hyn a offrymant yno,#a’r hwn a nesäo yno. LXX.
Aflan yw efe.
15Ac yn awr meddyliwch, atolwg;
O’r dydd hwn ac oddiar hyny,
Cyn gosod careg ar gareg yn nheml yr Arglwydd;
16Oddiar y buont,#pwy fuoch. LXX. am y buont.
Deuid at dwr o ugain llestraid,#cwched. LXX.
Deg ydoedd:
Deuid at y cafn gwin i dynu deg a deugain y gwyryf;
Ac ugain oedd.
17Tarewais chwi â llosgfa#diffrwythder. LXX. gwynt poeth. Vulg. ac â malldod;#difa gan wynt. LXX. rhwd. Vulg.
A holl waith eich dwylaw â’r cenllysg:#ac â’r cenllysg; Holl waith. Hebr.
Ac ni throisoch chwi ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
18Ystyriwch yn awr,#gostyngwch eich calonau. LXX Syr. o’r dydd hwn ac oddiar hyny,#yn mlaen. i ddyfod. Vulg. o’r pedwerydd dydd a’r ugain i’r nawfed mis,#yn y lloer naw. Syr. hyd oddiar y sylfaenwyd teml yr Arglwydd, ystyriwch.
19A ydyw yr had eto yn yr ystordŷ;
A’r winwydden eto, a’r ffigyswydden, a’r pomgranad, a’r pren olew ni ddwg ffrwyth;
O’r dydd hwn y bendithiaf.
20A bu gair yr Arglwydd yr ail waith at Haggai ar y pedwerydd a’r ugain i’r mis, gan ddywedyd:
21Dywed wrth Zerubabel, llywydd#o lwyth Judah. LXX. Judah, gan ddywedyd:
Myfi wyf yn ysgwyd y nefoedd a’r ddaear.#a’r môr a’r sychder. LXX.
22Ac a ymchwelaf orsedd teyrnasoedd;#breninoedd. LXX.
Ac a ddinystriaf gryfder teyrnasoedd#teyrnas. Vulg. breninoedd y. LXX. y cenedloedd:
Ac a ymchwelaf gerbyd a’i gerbydwyr;#a’i yrwyr. y cerbydau ar eu gyrwyr. Syr.
A meirch a’u marchogion a syrthiant;
Pob un gan gleddyf ei frawd.
23Yn y dydd hwnw, medd Arglwydd y lluoedd,
Y’th gymeraf di, Zerubabel mab Shealtiel, fy ngwas, medd yr Arglwydd;
A gosodaf di fel sêl:
Canys ymhyfrydais#dewisais di. LXX. Vulg. Syr. ynot,
Medd Arglwydd y lluoedd.
Právě zvoleno:
Haggai 2: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.