Haggai 1
1
PEN. I.—
1Yn yr ail flwyddyn i Darius y brenin, yn y chweched mis, yn y dydd cyntaf o’r mis, y bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai#Anggaios. LXX. Chagi. Syr. Aggaeus. Vulg. y proffwyd at Zerubabel, mab Shealtiel, llywydd#o lwyth. LXX. Judah, ac at Joshua, mab Jehosadac yr archoffeiriad, gan ddywedyd:
2Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd#hollalluog. Syr. gan ddywedyd:
Y bobl hyn a ddywedasant;
Ni ddaeth yn#yr. LXX. eto yn amser. Vulg. amser,
Yn amser i adeiladu#fel yr adeilader. Syr. tŷ yr Arglwydd.
3A bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd gan ddywedyd:
4A ydyw yn amser i chwi eich hunain;
I drigo yn eich tai byrddiedig:#nenedig. LXX. Vulg. pan yn fyrddiedig. Syr.
A’r tŷ hwn#a’n tŷ ni. LXX. yn anghyfanedd.
5Ac yn awr fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Ystyriwch eich ffyrdd.#gosodwch eich calon ar. Hebr. Vulg. ateich. LXX.
6Hauasoch lawer,
Ond ychydig ddwyn i fewn fu;
Bu bwyta,#bwytasoch, yfasoch. LXX., Vulg.
Ond nid hyd ddigon;
Yfed;
Ond nid hyd ddisychedu;#hyd feddwdod. LXX. ni feddwwyd chwi. Vulg. Syr.
Gwisgo,
Ond nid i gynesrwydd#ni’ch cyneswyd ynddynt. LXX ni’ch cyneswyd. Vulg. nid ydych yn cynesu. Syr. i un:#iddo. Hebr.
A’r hwn a enillo gyflog;
Sydd yn enill cyflog i god dyllog.
7Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Ystyriwch eich ffyrdd.
8Esgynwch i’r mynydd a dygwch#torwch. LXX. goed,
Ac adeiladwch y tŷ:
A mi a ymhyfrydaf#a bydd efe yn dderbyniol genyf Vulg. ynddo,
A mi a ogoneddir,#a’i gogoneddaf. ogoneddir ynddo. Syr.
Medd yr Arglwydd.
9Edrychwyd am lawer,
Ac wele ychydig oedd;
A dygasoch adref;
A chwythais#chwythais hwynt ymaith. LXX. arno:
Am ba beth,
Medd Arglwydd y lluoedd:
Am fy nhŷ yr hwn sydd yn anghyfanedd;#anialwch. LXX. am anrheithfa fy. Syr.
A chwithau yn rhedeg bob un i’w dŷ ei hun.
10Am hyny o’ch plegid chwi;#arnoch chwi. Vulg.
Yr attaliodd#gwaharddwyd—rhag rhoddi o honynt. Vulg. wybrenau rhag gwlith;
A’r ddaear a attaliodd ei chynyrch.
11A gelwais#galwn. am sychder#gleddyf. LXX. ddifrod. Syr. ar y ddaear ac ar y mynyddoedd,
Ac ar ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew;
Ac ar yr hyn a ddwg y ddaear:
Ac ar y dyn ac ar yr anifail;#dynion—anifeiliaid. LXX. Vulg.
Ac ar holl lafur dwylaw.#eu dwylaw. LXX. Syr.
12A gwrandawodd Zerubabel mab Shaltiel#o lwyth Judah. LXX. a Jehoshua mab Jehosadac yr offeiriad mawr, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw; ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megys#yr hwn yr anfonodd. Syr. yr anfonodd yr Arglwydd eu Duw hwynt ef: a’r bobl a ofnasant rhag yr Arglwydd.#rhag wyneb yr. Hebr.
13A dywedodd Haggai cenad yr Arglwydd, mewn cenadwri#yn mhlith cenadau yr. LXX. o genadaethau yr. Vulg. gan yr Arglwydd, wrth y bobl gan ddywedyd:
Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd,
14A chynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Zerubabel, mab Shaltiel, llywydd#o lwyth. LXX. Judah, ac ysbryd Jehoshua, mab Jehosadac yr offeiriad mawr, ac ysbryd holl weddill#y lleill o’r holl bobl. LXX. Vulg. y bobl; â hwy a ddaethant ac a wnaethant waith yn nhŷ 15Arglwydd y lluoedd, eu Duw hwynt: yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Darius y brenin.
Právě zvoleno:
Haggai 1: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.