Zechariah 1
1
PEN. I.—
1Yn yr wythfed mis yn yr ail flwyddyn i Darius; y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah#Zacharïas. LXX., mab Berecïah, mab Ido#Ad-do. LXX. Vulg. Adu. Syr. y proffwyd gan ddywedyd:
2Digiodd yr Arglwydd yn ddirfawr wrth eich tadau.
3A thi a ddywedi wrthynt,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:#ollalluog. LXX.
Dychwelwch ataf fi;
Medd Arglwydd y lluoedd:#y nerthoedd.
A mi a ddychwelaf atoch chwi;
Medd Arglwydd y lluoedd.
4Na fyddwch fel eich tadau,
Y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Dychwelwch yn awr oddiwrth eich ffyrdd drwg a’ch gweithredoedd drwg:#a’ch meddyliau drwg iawn. Vulg. a’ch arferion. LXX.
Ac ni chlywsant ac ni wrandawsant#ni sylwasant i wrando, LXX. arnaf,
Medd yr Arglwydd.
5Eich tadau,
Pa le y maent hwy:
A’r proffwydi;#pa le y mae eich—a’r. Syr.
A fyddent hwy byw byth.#a fyddent y—byw byth. Vulg. ai byth y byddent hwy byw.
6Diau fy ngeiriau a’m deddfau,#ngosodiadau. a dderbyniwch. LXX.
Y rhai orchymynais#trwy fy ysbryd i’m. LXX. i’m gweision y proffwydi;
Oni oddiweddasant eich tadau:#eich tadau a’u cofiasant a meddyliasant ac a ddy. Syr.
A hwy a ddywedasant yn ol,#ddychwelasant ac a ddyw. Hebr.
Megys y meddyliodd#y trefnodd. LXX. Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni;
Yn ol ein ffyrdd ac yn ol ein gweithredoedd;#dichellion. Syr.
Felly y gwnaeth Efe i ni.
7Ar y pedwerydd dydd ar ugain i’r unfed mis ar ddeg, hwnw yw mis Shebat; yn yr ail flwyddyn i Darius y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah, mab Berecïah; mab Ido y proffwyd gan ddywedyd:
8Gwelais, y nos,
Ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch;
Ac efe oedd yn aros rhwng y myrtwydd#coed cysgodog. Syr. mynyddoedd cysgodol. LXX. y rhai oeddent yn y pant:#gwaelod.
Ac o’i ol feirch cochion, rhuddion,#amryliw. LXX. Vulg. a gwynion.
9A mi a ddywedais,#dywedwn.
Beth yw y rhai hyn fy arglwydd.:
A dywedodd#dywedai. y genad yr hwn a ymddyddanai â mi wrthyf;
Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.
10A’r gŵr yr hwn oedd yn aros rhwng y myrtwydd#y mynyddoedd. LXX. y coed. Syr. a atebodd ac a ddywedodd:
Y rhai hyn yw y rhai a anfonodd yr Arglwydd;
I ymrodio trwy#o gylch y. LXX. y ddaear.
11A hwy a atebasant genad yr Arglwydd,
Yr hwn oedd yn aros rhwng y myrtwydd;
Ac a ddywedasant,
Ymrodiasom trwy y ddaear:
Ac wele yr holl ddaear yn aros#aneddir yr—ac y mae yn. Vulg yn llonydd.
12Ac atebodd cenad yr Arglwydd ac a ddywedodd,
Arglwydd y lluoedd;
Pa hyd na thosturi wrth Jerusalem;
A dinasoedd Judah:
Y rhai y digiaist wrthynt#yr edrychaist heibio iddynt neu yr esgeulusaist. LXX. y deng mlynedd a thri-ugain#hon yn awr yw y 70ain mlwydd Vulg. hyn.#yma.
13A’r Arglwydd a atebodd,
Y genad yr hwn oedd yn ymddyddan â mi,
Eiriau daionus, eiriau cysurol.#cysuron. Hebr.
14A’r genad yr hwn oedd yn ymddyddan a mi a ddywedodd wrthyf;
Gwaedda gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Eiddigeddais ag eiddigedd mawr#bum selog â sel fawr at. dros Jerusalem a thros Sïon.
15Ac â digofaint mawr yr wyf yn ddig;
Wrth y cenedloedd difraw:#llonydd. goludog. Vulg. blinion. LXX. terfysglyd. Syr.
Y rhai a mi wedi digio ychydig:
Hwythau a gynorthwyasant#chwanegasant. y drwg.
16Am hyny fel hyn y dywedodd. yr Arglwydd,
Dychwelais#dychwelaf. LXX. Vulg. i Jerusalem mewn tosturiaethau;
Fy nhŷ a adeiledir#adeiledir drachefn. LXX. ynddi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A llinyn a estynir dros Jerusalem.#Jerusalem eto. LXX.
17Llefa eto gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Fy ninasoedd#dinasoedd. LXX. eto a lifant#ymledant, ymwasgarant, was-gerir. LXX. a holltir. Syr. trostynt gan ddaioni:#llwyddiant, hawddfyd.
A’r Arglwydd a gysura#adeilada. Syr. Sïon eto;
Ac a ddewis#ymhyfryda yn. Jerusalem eto.
Právě zvoleno:
Zechariah 1: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.