YouVersion Logo
Search Icon

Salm 60

60
I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu : pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
1O Dduw, bwriaist ni ymaith * gwasgeraist / ni a / sorraist :
dychwel / atom / dra/chefn.
2Gwnaethost i’r ddaear grynu a / holltaist / hi :
iachâ ei briwiau / canys · y / mae yn / crynu.
3Dangosaist i’th / bobl · ga/ledi :
diodaist / ni â / gwin mad/rondod.
4Rhoddaist faner i’r / rhai a’th / ofnant :
i’w dyrchafu o/herwydd / y gwir/ionedd.
5Fel y gwareder / dy rai / annwyl :
achub â’th dde/heulaw · a / gwrando / fi.
6Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd * Llawenychaf / rhannaf / Sichem :
a me/suraf / ddyffryn / Succoth.
7Eiddof fi yw Gilead ac eiddof / fi Ma/nasse :
Effraim hefyd yw nerth fy mhen, / Jwda / yw fy / neddfwr.
8Moab yw fy / nghrochan / golchi :
dros Edom y bwriaf fy esgid * Philistia ymorfoledda / di o’m / plegid / i.
9Pwy a’m dwg i’r / ddinas / gadarn? :
pwy a’m / harwain / hyd yn / Edom?
10Onid tydi Dduw * yr hwn a’n / bwriaist / ymaith? :
a thydi O Dduw * yr hwn nid ait / allan / gyda’n / lluoedd?
11Moes i ni gynhorthwy / rhag cy/fyngder :
canys / ofer · yw ym/wared / dyn.
12Yn Nuw y / gwnawn w/roldeb :
canys efe a / sathr / ein ge/lynion.

Currently Selected:

Salm 60: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in