YouVersion Logo
Search Icon

Salm 51

51
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.
1Trugarha wrthyf O Dduw yn ôl dy / druga/rowgrwydd :
yn ôl lliaws dy dosturiaethau di/lea · fy / anwi/reddau.
2Golch fi yn llwyr ddwys oddi / wrth · fy an/wiredd :
a glanha fi / oddi / wrth fy / mhechod.
3Canys yr wyf yn cyd/nabod · fy ngham/weddau :
a’m pechod sydd yn / wastad / ger fy / mron.
4Yn dy erbyn di, dydi dy hunan y pechais * ac y gwneuthum y drwg hwn / yn dy / olwg :
fel y’th gyfiawnhaer pan leferych * ac y / byddit / bur pan / farnech.
5Wele mewn an/wiredd · y’m / lluniwyd :
ac mewn pechod y beich/iogodd · fy / mam / arnaf.
6Wele ceraist wirionedd / oddi / mewn :
a pheri i mi wybod doe/thineb / yn y / dirgel.
7Glanha fi ag isop a / mi a · lan/heir :
golch fi a / byddaf / wynnach · na’r / eira.
8Pâr i mi glywed gor/foledd · a lla/wenydd :
fel y llawe/nycho · yr / esgyrn · a / ddrylliaist.
9Cuddia dy wyneb oddi / wrth · fy mhe/chodau :
a di/lea · fy / holl · anwi/reddau.
10Crea galon lân / ynof · O / Dduw;
ac adnewydda / ysbryd / uniawn · o’m / mewn.
11Na fwrw fi ymaith oddi / ger dy / fron :
ac na chymer dy ysbryd / sanctaidd / oddi / wrthyf.
12Dyro drachefn i mi orfoledd dy / iachaw/dwriaeth :
ac â’th / hael / ysbryd / cynnal fi.
13Yna y dysgaf dy / ffyrdd · i rai / anwir :
a phecha/duriaid · a / droir / atat.
14Gwared fi oddi wrth waed O Dduw * Duw fy / iachaw-/dwriaeth :
a’m tafod a gân yn / llafar / am dy · gyf/iawnder.
15Arglwydd / agor · fy ngwe/fusau :
a’m / genau · a fy/nega · dy / foliant.
16Canys ni chwenychi aberth * pe amgen / mi a’i / rhoddwn :
poeth/offrwm / ni / fynni.
17Aberthau Duw ydynt / ysbryd · dryll/iedig :
calon ddrylliog gystuddiedig O / Dduw / ni ddir/mygi.
18Gwna ddaioni yn dy ewyllys/garwch · i / Seion :
adei/lada / furiau · Je/rwsalem.
19Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder * i boethoffrwm ac / aberth / llosg :
yna yr offrymant / fustych / ar dy / allor.

Currently Selected:

Salm 51: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in