YouVersion Logo
Search Icon

Salm 41

41
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwyn ei fyd a ystyria / wrth y / tlawd :
yr Arglwydd a’i gwared / ef yn / amser / adfyd.
2Yr Arglwydd a’i ceidw ac a’i bywha * gwynfydedig fydd / ar y / ddaear :
na ddod dithau ef wrth e/wyllys / ei e/lynion.
3Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei / glaf / wely :
cyweiri ei holl / wely · ef / yn ei / glefyd.
4Mi a ddywedais, Arglwydd / trugar · ha / wrthyf :
iachâ fy enaid / canys / pechais · i’th / erbyn.
5Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf / gan ddy/wedyd :
Pa bryd y bydd efe farw ac y derfydd / am ei / enw / ef?
6Ac os daw i’m hedrych efe a / ddywed / gelwydd :
ei galon a gasgl ati anwiredd * pan êl / allan · e/fe a’i / traetha.
7Fy holl gaseion a gydhus/tyngant · i’m / herbyn :
yn fy erbyn y dych/mygant / ddrwg / i mi.
8Aflwydd meddant a / lŷn / wrtho :
a chan ei fod yn / gorwedd · ni / chyfyd / mwy.
9Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf * yr hwn yr ymddiriedais iddo * ac a fwy/taodd · fy / mara :
a ddyr/chafodd · ei / sawdl i’m / herbyn.
10Eithr ti Arglwydd trugar/ha / wrthyf :
a chyfod fi / fel y / talwyf / iddynt.
11Wrth hyn y gwn hoffi o/honot / fi :
am na chaiff fy / ngelyn · orfo/leddu · i’m / herbyn.
12Ond amdanaf fi * yn fy mherffeithrwydd / y’m cyn/heli :
ac y’m gosodi / ger dy / fron yn · dra/gywydd.
13Bendigedig fyddo / Arglwydd · Dduw / Israel :
o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb * A/men ac / A/men.

Currently Selected:

Salm 41: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in