YouVersion Logo
Search Icon

Luc 6

6
Tynnu Tywysennau ar y Saboth
Mth. 12:1–8; Mc. 2:23–28
1Un Saboth yr oedd yn mynd trwy gaeau ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu tywysennau ac yn eu bwyta, gan eu rhwbio yn eu dwylo. 2Ond dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Pam yr ydych yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?” 3Atebodd Iesu hwy, “Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef? 4Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?” 5Ac meddai wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”
Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth
Mth. 12:9–14; Mc. 3:1–6
6Ar Saboth arall aeth i mewn i'r synagog a dysgu. Yr oedd yno ddyn â'i law dde yn ddiffrwyth. 7Yr oedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu ar y Saboth, er mwyn cael hyd i gyhuddiad yn ei erbyn. 8Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau, ac meddai wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Cod a saf yn y canol”; a chododd yntau ar ei draed. 9Meddai Iesu wrthynt, “Yr wyf yn gofyn i chwi, a yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu ei ddifetha?” 10Yna edrychodd o gwmpas arnynt oll a dweud wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. 11Ond llanwyd hwy â gorffwylledd, a dechreusant drafod â'i gilydd beth i'w wneud i Iesu.
Dewis y Deuddeg
Mth. 10:1–4; Mc. 3:13–19
12Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw. 13Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt: 14Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus; 15Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot; 16Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.
Gweinidogaethu i Dyrfa Fawr
Mth. 4:23–25
17Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau; 18yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella. 19Ac yr oedd yr holl dyrfa'n ceisio cyffwrdd ag ef, oherwydd yr oedd nerth yn mynd allan ohono ac yn iacháu pawb.
Gwynfydau a Gwaeau
Mth. 5:1–12
20Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud:
“Gwyn eich byd chwi'r tlodion,
oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog,
oherwydd cewch eich digoni.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo,
oherwydd cewch chwerthin.
22“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. 23Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.
24“Ond gwae chwi'r cyfoethogion,
oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.
25Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi,
oherwydd daw arnoch newyn.
Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin,
oherwydd cewch ofid a dagrau.
26“Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.
Caru Gelynion
Mth. 5:38–48; 7:12a
27“Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu, 28bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin. 29Pan fydd rhywun yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd un yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. 30Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl. 31Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy. 32Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy. 33Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny. 34Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl. 35Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl#6:35 Yn ôl darlleniad arall, heb anobeithio am neb.. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus. 36Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
Barnu Eraill
Mth. 7:1–5
37“Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi. 38Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.” 39Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau? 40Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro. 41Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, ‘Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di’, a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.
Adnabod Coeden wrth ei Ffrwyth
Mth. 7:17–20; 12:34b–35
43“Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da. 44Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin. 45Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.
Y Ddwy Sylfaen
Mth. 7:24–27
46“Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn? 47Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg: 48y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn. 49Ond y mae'r sawl sy'n clywed, ond heb wneud, yn debyg i rywun a adeiladodd dŷ ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tŷ hwnnw ar unwaith, a dirfawr fu ei gwymp.”

Currently Selected:

Luc 6: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy