YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 6

6
Dysgeidiaeth ar Elusennau
1“Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
2“Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. 3Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid â gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud. 4Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.
Dysgeidiaeth ar Weddi
Lc. 11:2–4
5“A phan fyddwch yn gweddïo, peidiwch â bod fel y rhagrithwyr; oherwydd y maent hwy'n hoffi gweddïo ar eu sefyll yn y synagogau ac ar gonglau'r heolydd, er mwyn cael eu gweld gan eraill. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. 6Ond pan fyddi di'n gweddïo, dos i mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad sydd yn y dirgel, a bydd dy Dad sydd yn gweld yn y dirgel yn dy wobrwyo. 7Ac wrth weddïo, peidiwch â phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. 8Peidiwch felly â bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion. 9Felly, gweddïwch chwi fel hyn:
“ ‘Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
10deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
11Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol#6:11 Neu, ein bara at yfory. Neu, y bara sy'n ein cynnal.;
12a maddau inni ein troseddau#6:12 Groeg, dyledion.,
fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
13a phaid â'n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg#6:13 Neu, rhag y drwg..#6:13 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant am byth. Amen.
14“Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. 15Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Dysgeidiaeth ar Ymprydio
16“A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch â bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. 17Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb, 18fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.
Trysor yn y Nef
Lc. 12:33–34
19“Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. 20Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. 21Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.
Goleuni'r Corff
Lc. 11:34–36
22“Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael#6:22 Yn llythrennol, sengl., bydd dy gorff yn llawn goleuni. 23Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!
Duw a Mamon
Lc. 16:13
24“Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon#6:24 Neu, Arian..
Gofal a Phryder
Lc. 12:22–34
25“Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad? 26Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy? 27P'run ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes#6:27 Neu, y maint lleiaf at ei daldra. trwy bryderu? 28A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. 29Ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain. 30Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd? 31Peidiwch felly â phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i'w fwyta?’ neu ‘Beth yr ydym i'w yfed?’ neu ‘Beth yr ydym i'w wisgo?’ 32Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd. 33Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. 34Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.

Currently Selected:

Mathew 6: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy