YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 4

4
Cain ac Abel
1Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig Efa, a beichiogodd ac esgor ar Cain, a dywedodd, “Dygais#4:1 Hebraeg, canah. Cymh. Cain. ŵr trwy yr ARGLWYDD.” 2Esgorodd wedyn ar ei frawd Abel. Bugail defaid oedd Abel, a Cain yn trin y tir. 3Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD, 4a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster. 5Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist. 6Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, “Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist? 7Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu.” 8A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, “Gad inni fynd i'r maes.”#4:8 Felly Fersiynau. Hebraeg heb “Gad… maes.” A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd. 9Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, “Ble mae dy frawd Abel?” Meddai yntau, “Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?” 10A dywedodd Duw, “Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd. 11Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law. 12Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear.” 13Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn. 14Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd.” 15Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly#4:15 Felly Fersiynau. Hebraeg, Felly.; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd. 16Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.
Disgynyddion Cain
17Cafodd Cain gyfathrach â'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar ôl ei fab, Enoch. 18Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech. 19Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail. 20Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail. 21Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib. 22Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.
23A dywedodd Lamech wrth ei wragedd:
“Ada a Sila, clywch fy llais;
chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd;
lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.
24Os dielir am Cain seithwaith,
yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.”
Seth ac Enos
25Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, “Darparodd#4:25 Hebraeg, sith. Cymh. Seth. Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd.” 26I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

Genesis 4: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy