YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 33

33
Bendith Moses
1Dyma'r fendith ar blant Israel a gyhoeddodd Moses gŵr Duw, cyn ei farw:
2Cododd yr ARGLWYDD o Sinai
a gwawriodd arnynt o Seir;
disgleiriodd o Fynydd Paran
a dod â myrddiynau o Cades#33:2 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg, o fyrddiynau cysegredig.,
o'r de, o lethrau'r mynyddoedd#33:2 Neu, o'i dde a thân cyfraith iddynt..
3Yn ddiau, y mae'n caru ei bobl#33:3 Felly Groeg. Hebraeg, y bobloedd.,
a'i holl saint sydd yn ei#33:3 Felly Fwlgat. Hebraeg, dy. law;
plygant yn isel wrth ei#33:3 Felly Fwlgat. Hebraeg, dy. draed
a derbyn ei#33:3 Felly Fwlgat. Hebraeg, dy. ddysgeidiaeth,
4y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,
yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.
5Gwnaed ef yn frenin ar Jesurun
pan ymgasglodd penaethiaid y bobl,
a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.
6Bydded Reuben fyw, ac nid marw,
ond na foed ei dylwyth yn niferus.
7A dyma a ddywedodd am Jwda:
Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,
a dwg ef at ei bobl;
â'i ddwylo yr ymdrechodd—
ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.
8Dywedodd am Lefi:
Rho i Lefi#33:8 Felly Groeg. Hebraeg heb Rho i Lefi. dy Twmim,
a'th Wrim i'r un sy'n ffyddlon iti;
fe'i profaist yn Massa,
a dadlau ag ef wrth ddyfroedd Meriba.
9Fe ddywed am ei dad a'i fam,
“Nid wyf yn eu hystyried”,
ac nid yw'n cydnabod ei frodyr
nac yn arddel ei blant.
Oherwydd bu'n cadw dy air
ac yn gwarchod dy gyfamod.
10Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacob
a'th gyfraith i Israel.
Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron,
a'r aberth llwyr ar dy allor.
11Bendithia, O ARGLWYDD, ei wrhydri,
a derbyn waith ei ddwylo.
Dryllia lwynau'r rhai sy'n codi yn ei erbyn,
ac eiddo'i gaseion, rhag iddynt godi eto.
12Dywedodd am Benjamin:
Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch;
bydded i'r Goruchaf#33:12 Cymh. Groeg. Hebraeg, diogelwch drosto. gysgodi drosto trwy'r dydd,
a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.
13Dywedodd am Joseff:
Bydded i'w dir gael ei fendithio gan yr ARGLWYDD
â ffrwyth gorau'r nef, y gwlith,
a dŵr o'r dyfnder isod;
14â chynnyrch gorau'r haul,
a thwf gorau'r misoedd;
15â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,
a ffrwythlondeb y bryniau oesol,
16â gorau'r ddaear a'i llawnder,
a ffafr preswylydd y berth.
Doed hyn i gyd ar ben Joseff,
ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
17Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,
a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;
bydd yn cornio'r bobloedd â hwy
a'u gyrru#33:17 Tebygol. Hebraeg, hwy ynghyd. hyd eithaf y ddaear.
Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,
rhai felly fydd miloedd Manasse.
18Dywedodd am Sabulon:
Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,
ac Issachar yn dy bebyll.
19Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,
ac yno offrymu aberthau cywir.
Yn wir, cânt sugno golud y môr,
a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.
20Dywedodd am Gad:
Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!
Y mae fel llew yn ei diriogaeth,
yn rhwygo ymaith fraich a chorun.
21Gofalodd am y gorau iddo'i hun;
cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.
Daeth â phenaethiaid y bobl allan;
gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,
a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.
22Dywedodd am Dan:
Cenau llew yw Dan,
yn neidio allan o Basan.
23Dywedodd am Nafftali:
Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,
a llawn o fendith yr ARGLWYDD;
bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.
24Dywedodd am Aser:
Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,
a bod yn ffefryn gan ei frodyr,
yn trochi ei droed mewn olew.
25Bydded dy farrau o haearn a phres,
a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.
26Nid oes tebyg i Dduw Jesurun,
sy'n marchogaeth trwy'r nef i'th gynorthwyo,
ac ar y cymylau yn ei ogoniant.
27Duw'r oesoedd yw dy noddfa,
ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.
Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen,
a dweud, “Difetha ef.”
28Cafodd Israel fyw yn ddiogel,
a Jacob drigo heb ymyrraeth,
mewn gwlad o ŷd a gwin,
a'i wybrennau'n diferu gwlith.
29Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti,
yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD?
Ef yw dy darian a'th gymorth,
a chleddyf dy orfoledd hefyd.
Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen,
a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.

Currently Selected:

Deuteronomium 33: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy