YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 1

1
Dafydd yn Clywed am Farwolaeth Saul
1Ar ôl marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag. 2Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu. 3Gofynnodd Dafydd iddo, “O ble y daethost?” Atebodd yntau, “Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf.” 4Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw. 5Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?” 6Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano. 7Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau. 8Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’ 9Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’ 10Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.” 11Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd; 12a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thŷ Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf. 13Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.” 14Ac meddai Dafydd wrtho, “Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?” 15Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw. 16Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”
Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan
17Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan, 18a gorchymyn ei dysgu#1:18 Felly Groeg. Hebraeg, gorchymyn dysgu'r bwa. i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar#1:18 Neu, yr Uniawn.:
19“O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!
O fel y cwympodd y cedyrn!
20“Peidiwch â'i adrodd yn Gath,
na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,
rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,
rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.
21“O fynyddoedd Gilboa,
na foed gwlith na glaw arnoch,
chwi feysydd marwolaeth#1:21 Felly Fersiynau. Hebraeg, offrymau..
Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,
tarian Saul heb ei hiro ag olew.
22“Oddi wrth waed lladdedigion,
oddi wrth fraster rhai cedyrn,
ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl;
a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.
23“Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr,
yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy;
cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.
24“O ferched Israel, wylwch am Saul,
a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,
ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.
25“O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!
lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.
26“Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;
buost yn annwyl iawn gennyf;
yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,
y tu hwnt i gariad gwragedd.
27“O fel y cwympodd y cedyrn,
ac y difethwyd arfau rhyfel!”

Currently Selected:

2 Samuel 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy