YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 25

25
Cwymp Jerwsalem
2 Cron. 36:13–21; Jer. 52:3–11
Gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon, 1ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar y degfed dydd o'r degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon gyda'i holl fyddin yn erbyn Jerwsalem, a gwersyllu yno, a chodi gwrthglawdd o'i chwmpas. 2Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Sedeceia. 3Ar y nawfed dydd o'r pedwerydd#25:3 Felly Jer. 52:6. Hebraeg heb pedwerydd. mis, pan oedd newyn trwm yn y ddinas a phobl y wlad heb fwyd, bylchwyd mur y ddinas. 4A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hyn, ffodd gyda'i holl filwyr allan o'r ddinas#25:4 Felly Jer. 39:4; cymh. Jer. 52:7. Hebraeg heb A phan welodd… ffodd ac allan o'r ddinas. liw nos, drwy'r porth rhwng y ddau fur sydd wrth ardd y brenin; ac er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas, ffodd y brenin i gyfeiriad yr Araba. 5Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar ôl y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chwâl. 6Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn ôl at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno. 7Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon.
Dinistrio'r Deml
Jer. 52:12–23
8Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem. 9Rhoddodd dŷ'r ARGLWYDD a phalas y brenin ar dân, a llosgi hefyd bob tŷ o faint yn Jerwsalem. 10Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu. 11Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr#25:11 Felly Jer. 52:15. Hebraeg, dorf.. 12Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr. 13Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon, 14a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau. 15Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau tân a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur. 16Ac am y ddwy golofn bres a'r môr a'r trolïau a wnaeth Solomon i dŷ'r ARGLWYDD, nid oedd yn bosibl pwyso'r pres yn yr offer hyn. 17Deunaw cufydd oedd uchder y naill golofn, a'r cnap pres arni yn dri chufydd o uchder, a rhwydwaith o bomgranadau o gwmpas y cnap, a'r cwbl o bres; ac yr oedd yr ail golofn a'i rhwydwaith yr un fath.
Caethgludo Jwda i Fabilon
Jer. 52:24–27
18Cymerodd capten y gwarchodlu Seraia yr archoffeiriad a Seffaneia yr ail offeiriad a thri cheidwad y drws; 19a chymerodd o'r ddinas swyddog a ofalai am y gwŷr rhyfel, pump o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ysgrifennydd pennaeth y fyddin a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o bobl y wlad oedd yn parhau yn y ddinas. 20Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu â'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla. 21Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun.
Penodi Gedaleia yn Llywodraethwr Jwda
Jer. 40:7–9; 41:1–3
22Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda. 23Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr, fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia, daethant at Gedaleia i Mispa. Eu henwau oedd Ismael fab Nethaneia, Johanan fab Carea, Seraia fab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia fab y Maachathiad. 24Tyngodd Gedaleia wrthynt ac wrth eu milwyr, “Nid oes angen i chwi ofni swyddogion y Caldeaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd yn iawn arnoch.”
25Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elishama, a oedd o'r llinach frenhinol, a deg o ddynion gydag ef, a tharo'n farw Gedaleia a'r Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef yn Mispa. 26Yna cododd yr holl bobl, bach a mawr, a swyddogion y lluoedd, a ffoi i'r Aifft rhag ofn y Caldeaid.
Rhyddhau Jehoiachin o Garchar
Jer. 52:31–34
27Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn y daeth i'r orsedd, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ryddhau#25:27 Felly Groeg, Syrieg a Jer. 52:32. Hebraeg heb a'i ryddhau. o garchar. 28Bu'n garedig wrtho a rhoi iddo sedd uwch na brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon. 29Newidiodd Jehoiachin o'i ddillad carchar, a chafodd fwyta'i fara'n feunyddiol gydag ef weddill ei oes, 30a chael dogn beunyddiol gan y brenin weddill ei ddyddiau.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 25: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy