YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 1

1
1Cân serch orau Solomon.
Y gerdd gyntaf – Cariad
Y ferch wrth ei chariad:#1:1 Y ferch wrth ei chariad Dydy’r testun Hebraeg ddim yn dweud pwy sy’n siarad. Mae’r cyfieithiad hwn yn nodi pwy sy’n debygol o fod yn siarad ar sail cenedl geiriau. (Mae’n weddol amlwg yn yr Hebraeg pwy sy’n siarad gan fod yr iaith Hebraeg yn defnyddio ffurfiau gwrywaidd a benywaidd gwahanol i enwau, berfau, ansoddeiriau a rhagenwau. Er hynny, mae cyfieithiadau gwahanol yn amrywio rhywfaint yn eu barn).
2Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!
Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3ac arogl dy bersawr mor hyfryd.
Rwyt fel yr olew persawrus gorau –
does dim syndod fod merched ifanc
yn dy garu di.
4Tyrd, cymer fi gyda ti;
gad i ni frysio! Fy mrenin,
dos â fi i dy ystafell wely.
Gad i ni fwynhau a chael pleser;
mae profi gwefr dy gyffyrddiad
yn well na gwin.#1:4 mae profi … gwin Mae’r Hebraeg yr un fath â’r ail linell yn adn. 2. Mae’r cyfieithiad yn wahanol i geisio cyfleu ystyr lawn y darlun yn y gwreiddiol.
Mae’n ddigon teg fod merched ifanc
yn dy garu di.
Y ferch wrth ferched Jerwsalem:
5Ferched Jerwsalem,
mae fy nghroen yn ddu ond dw i’n hardd –
yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar,#1:5 pobl Cedar Llwyth nomadig o’r dwyrain, ac mae’n debyg eu bod yn gwneud eu pebyll o groen geifr duon (gw. Jeremeia 49:28; Eseia 60:7).
a hardd fel llenni palas Solomon.
6Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu
a’r haul wedi rhoi croen tywyll i mi.
Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,
a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;
ond methais ofalu amdana i fy hun.
Y ferch wrth ei chariad:
7Fy nghariad, dywed wrtho i,
Ble rwyt ti’n arwain dy ddefaid?
Ble fyddan nhw’n gorffwys ganol dydd?
Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl
a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
Merched Jerwsalem wrth y ferch:
8O’r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,
dilyn olion traed y praidd
a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
Y cariad wrth y ferch:
9F’anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf
sy’n tynnu cerbydau’r Pharo.
10Mae tlysau ar dy fochau hardd,
a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11Dw i am roi tlysau aur i ti,
wedi’u haddurno ag arian.
Y ferch ifanc:
12Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,
roedd arogl fy mhersawr yn llenwi’r awyr.
13Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd
yn gorwedd drwy’r nos rhwng fy mronnau.
14Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.#1:14 En-gedi Gwerddon i’r gorllewin o’r Môr Marw.
Y cariad wrth y ferch ifanc:
15O, rwyt mor hardd, f’anwylyd!
O, rwyt mor hardd!
Mae dy lygaid fel colomennod.
Y ferch wrth ei chariad:
16O, rwyt mor olygus, fy nghariad –
ac mor hyfryd!
Mae’r gwyrddni fel canopi o’n cwmpas
yn gorchuddio’n gwely.
17Mae canghennau’r coed cedrwydd
fel trawstiau yn y to uwch ein pen;
a’r coed pinwydd fel paneli.

Currently Selected:

Caniad Solomon 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy