YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 1

1
1Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw. 2Dyma’r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da 3am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, 4ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. 5Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a’r cyfrifoldeb o’i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw’n ufudd iddo. 6A dych chi’n rhai o’r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
7Dw i’n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi’ch caru gan Dduw a’ch gwneud yn bobl arbennig iddo.
Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Paul yn hiraethu am gael mynd i Rufain
8Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i’n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy’r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi. 9Dw i wrthi’n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi’r newyddion da am ei Fab, ac mae e’n gwybod mod i’n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd. 10Dw i’n gweddïo y bydd e’n ei gwneud hi’n bosib i mi ddod atoch chi o’r diwedd.
11Dw i wir yn hiraethu am gael dod i’ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi’n gryf. 12Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi wrth i ni rannu’n profiadau. 13Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith,#Actau 19:21 ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
14Mae’n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i’w thalu! Dim ots os ydyn nhw’n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu’n farbariaid cwbl ddi-addysg.#1:14 farbariaid cwbl ddi-addysg: Pobl oedd ddim yn gallu siarad yr iaith Roeg. 15A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi’r newyddion da.
16Does gen i ddim cywilydd o’r newyddion da o gwbl. Dyma’r ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd. 17Dyma’r newyddion da sy’n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e’n ffyddlon. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Drwy ffydd mae’r un sy’n iawn gyda Duw yn byw.”#Habacuc 2:4
Mae pawb yn haeddu cael eu cosbi gan Dduw
18Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi’r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw’n mygu’r gwirionedd gyda’u drygioni. 19Mae beth sydd i’w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi’i wneud yn ddigon clir i bawb. 20Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi’u creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
21Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw’n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch. 22Ydyn, maen nhw’n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! 23Yn lle addoli’r Duw bendigedig sy’n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi’u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.#gw. Salm 106:20; Deuteronomium 4:16-18
24Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda’i gilydd. 25Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy’n wir am Dduw! Maen nhw’n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli’r Crëwr ei hun! – yr Un sy’n haeddu ei foli am byth! Amen!
26Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn; 27a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw’n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu’r gosb maen nhw’n ei haeddu.
28Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy’n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw’n gwneud popeth o’i le – 29ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill. 30Maen nhw’n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni, 31dydyn nhw’n deall dim, maen nhw’n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd. 32Maen nhw’n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy’n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw’n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!

Currently Selected:

Rhufeiniaid 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy