YouVersion Logo
Search Icon

Actau 1

1
1Annwyl Theoffilws:
Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf#1:1 fy llyfr cyntaf: Efengyl Luc. am y pethau aeth Iesu ati i’w gwneud a’u dysgu 2cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i’r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân. 3Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
4Un o’r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi’i addo. Dych chi’n cofio fy mod wedi siarad am hyn o’r blaen. 5Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi’ch bedyddio â’r Ysbryd Glân.”
Iesu’n mynd yn ôl i’r nefoedd
(Marc 16:19-20; Luc 24:50-53)
6Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw’n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti’n mynd i ryddhau Israel a’i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”
7Ateb Iesu oedd: “Duw sy’n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy’r amserlen mae Duw wedi’i threfnu. 8Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.”
9Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i’r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o’i gwmpas a diflannodd o’u golwg.
10Tra oedden nhw’n syllu i’r awyr yn edrych arno’n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw, 11a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi’n ei wneud yma yn syllu i’r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i’r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e’n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”
Mathïas yn cael ei ddewis yn lle Jwdas
12Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir#1:12 Groeg taith diwrnod Saboth. i ffwrdd o’r ddinas. Dyma nhw’n cerdded yn ôl i Jerwsalem 13a mynd yn syth i’r ystafell honno i fyny’r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw’n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago. 14Roedden nhw’n cyfarfod yno’n gyson i weddïo gyda’i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a’i frodyr, a nifer o wragedd.
15Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol, 16a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i’w arestio. 17Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!”
18(Prynodd Jwdas faes gyda’r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i’w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg. 19Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‘Maes y Gwaed’.)
20“Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr,
‘Bydded ei le yn anial,
heb neb yn byw yno.’ #Salm 69:25
“Ac mae’n dweud hefyd,
‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’ #Salm 109:8
21“Felly mae’n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma. 22Rhywun fuodd yno drwy’r adeg, o’r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i’r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i’r nefoedd. Rhaid i’r person, fel ni, fod yn dyst i’r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.”
23Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy’n cael ei alw’n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall. 24Felly dyma nhw’n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti’n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o’r ddau yma rwyt ti wedi’i ddewis 25i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi’n gadael ni, ac wedi mynd lle mae’n haeddu.” 26Yna dyma nhw’n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda’r un ar ddeg.

Currently Selected:

Actau 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy