Genesis 8
8
Y dŵr yn gostwng
1Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a’r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. 2Dyma’r ffynhonnau dŵr tanddaearol a’r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi’n stopio glawio. 3Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. 4Bum mis union ar ôl i’r dilyw ddechrau,#8:4 Bum mis … ddechrau Hebraeg, “ar yr ail ar bymtheg o’r seithfed mis” gw. 7:11. glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5Ddau fis a hanner wedyn, wrth i’r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o’r mynyddoedd eraill i’r golwg.
6Pedwar deg diwrnod ar ôl i’r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest 7ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi’n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. 8Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld a oedd y dŵr wedi mynd. 9Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i’r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio’r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i’r arch. 10Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto. 11Y tro yma, pan oedd hi’n dechrau nosi, dyma’r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa’n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. 12Yna arhosodd am wythnos arall cyn anfon y golomen allan eto, a’r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
13Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o’r gorchudd oedd ar do’r arch, a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu. 14Erbyn y seithfed ar hugain o’r ail fis roedd y ddaear yn sych.
15A dyma Duw yn dweud wrth Noa, 16“Dos allan o’r arch, ti a dy deulu. 17Tyrd â phopeth allan – yr adar a’r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael haid o rai bach, drwy’r ddaear i gyd.” 18Felly dyma Noa a’i wraig, a’i feibion a’u gwragedd nhw, yn mynd allan o’r arch. 19A daeth yr anifeiliaid i gyd, a’r ymlusgiaid, a’r adar allan yn eu grwpiau.
Noa yn aberthu i’r ARGLWYDD
20Yna cododd Noa allor i’r ARGLWYDD ac aberthu rhai o’r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel offrwm i’w losgi. 21Roedd yr aberth yn arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD, ac meddai wrtho’i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio’r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw’n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.
22Tra mae’r byd yn bod,
bydd amser i blannu a chasglu’r cynhaeaf;
bydd tywydd oer a thywydd poeth,
haf a gaeaf, nos a dydd.”
Currently Selected:
Genesis 8: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023
Videos for Genesis 8
Episode 36:Are We Near the End? The Bible’s Hidden Pattern
Under The Hood
EP 25. Why Do So Many Cultures Have Flood Myths? The Truth Behind the Stories
Under The Hood
Episode 29: Did a Meteor Really Trigger Noah’s Flood?
Under The Hood
Ep 32. Genesis 6-7: The Flood: A Heartbroken God Brings Justice and Mercy
The Bible Show