Deuteronomium 8:7-9
Deuteronomium 8:7-9 BNET
Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy’n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i’w cloddio o’r tir – haearn a chopr.