YouVersion Logo
Search Icon

2 Ioan 1

1
1Llythyr gan Ioan yr arweinydd,
At yr eglwys – gwraig fonheddig sydd wedi’i dewis gan Dduw. Ac at ei phlant, sef chi sy’n credu, y rhai dw i’n eu caru go iawn. A dim fi ydy’r unig un. Mae pawb sy’n gwybod y gwir yn eich caru chi, 2am fod y gwir yn aros ynon ni, a bydd gyda ni am byth.
3Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy’n byw bywyd o gariad ac sy’n ffyddlon i’r gwir. 4Rôn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi’n byw felly – yn ffyddlon i’r gwir, fel mae’r Tad wedi gorchymyn i ni.
Caru ein gilydd
5Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i’n apelio atoch chi i gofio’r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o’r dechrau, sef ein bod i garu’n gilydd.#Ioan 13:34; 15:12,17 6Ystyr cariad ydy ein bod ni’n byw fel mae Duw’n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o’r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.
7Mae llawer o rai sy’n twyllo wedi’n gadael ni a mynd allan i’r byd. Pobl ydyn nhw sy’n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a’i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia! 8Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli’r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn. 9Mae’r rhai sy’n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy’n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda’r Tad a’r Mab. 10Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu’r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i’ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw. 11Mae unrhyw un sy’n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg.
12Mae gen i lawer mwy i’w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i’n gobeithio dod i’ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny’n ein gwneud ni’n#1:12 ein gwneud ni’n: Mae rhai llawysgrifau yn dweud eich gwneud chi’n. hapus go iawn!
13Mae plant eich chwaer eglwys yma – hithau wedi’i dewis gan Dduw – yn anfon eu cyfarchion.

Currently Selected:

2 Ioan 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy