YouVersion Logo
Search Icon

2 Corinthiaid 2

2
1Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai’n achosi poen i bawb. 2Os ydw i’n eich gwneud chi’n drist, pwy sy’n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo? 3Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i’ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Rôn i’n siŵr mai beth sy’n fy ngwneud i’n hapus sy’n eich gwneud chi’n hapus yn y pen draw. 4Roedd ysgrifennu’r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Rôn i’n ddigalon iawn, a bues i’n wylo’n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau’ch gwneud chi’n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i’n eich caru chi!
Maddeuant i’r pechadur
5Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i’r peth swnio’n waeth nag y mae). 6Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i’w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir. 7Erbyn hyn mae’n bryd i chi faddau iddo a’i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu’n llwyr a suddo i anobaith. 8Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi’n dal i’w garu. 9Rôn i’n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio’r prawf a bod yn gwbl ufudd. 10Dw i’n maddau i bwy bynnag dych chi’n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i’w faddau. Mae’r Meseia ei hun yn gwybod mod i wedi gwneud hynny. 11Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni’n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
Gweision trefn newydd Duw
12Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi’r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd, 13doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i’n disgwyl. Felly dyma fi’n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano.
14Ond diolch i Dduw, mae’r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni’n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy’r byd i gyd! 15Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy’n cael eu hachub a’r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw. 16Mae fel mwg gwenwynig i’r ail grŵp, ond i’r lleill yn bersawr hyfryd sy’n arwain i fywyd. Pwy sy’n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd! 17Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! – dŷn ni’n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi’r neges mae Duw wedi’i rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.

Currently Selected:

2 Corinthiaid 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy