YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 36

36
Jehoachas yn frenin Jwda#Jeremeia 22:10-12
(2 Brenhinoedd 23:30-35)
1Dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a’i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad. 2Roedd e’n ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri mis. 3Dyma, Necho, brenin yr Aifft yn ei gymryd o Jerwsalem a rhoi treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur. 4Wedyn dyma fe’n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i’r Aifft.
Jehoiacim yn frenin Jwda#Jeremeia 22:13-19
(2 Brenhinoedd 23:36–24:7)
5Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. 6Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe’n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e’n gaeth i Babilon. 7Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a’u gosod yn ei balas ei hun. 8Mae gweddill hanes Jehoiacim, a’r pethau ffiaidd wnaeth e, a’r cyhuddiadau yn ei erbyn, i’w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le.
Jehoiachin yn frenin Jwda#Jeremeia 22:24-30
(2 Brenhinoedd 24:8-17)
9Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. 10Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i’w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
Sedeceia yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 24:18-20; Jeremeia 52:1-3a)
11Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi’n frenin.#36:11 benodi’n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. Jeremeia 37:1). Bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. 12Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo. 13Dyma fe’n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai’n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a phenstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel. 14Roedd arweinwyr yr offeiriaid a’r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a’r gwledydd paganaidd. Dyma nhw’n llygru’r deml oedd wedi’i chysegru i’r ARGLWYDD yn Jerwsalem. 15Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i’w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a’i deml. 16Ond roedden nhw’n gwneud hwyl am ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau’n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.
Byddin Babilon yn dinistrio Jerwsalem
(2 Brenhinoedd 15:1-20; Jeremeia 52:3b-11)
17Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw’n lladd y dynion ifainc â’r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed – y dynion a’r merched ifainc, na’r hen a’r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo’u lladd nhw i gyd. 18Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai’r deml, a trysorau’r brenin a’i swyddogion, a mynd â’r cwbl i Babilon. 19Wedyn, dyma’r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw’n llosgi’r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno. 20A dyma fe’n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw’n gaethweision i’r brenin a’i feibion nes i’r Persiaid deyrnasu. 21Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau,#Lefiticus 25:1-7 arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.#Jeremeia 25:11
Cyrus yn gadael i’r caethion fynd yn ôl i Jerwsalem
(Esra 1:1-4)
22Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia,#36:22 Lai na blwyddyn … frenin Persia 538 cc mae’n debyg. Roedd Cyrus wedi concro Babilon yn 539 cc. dyma’r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia.#36:22 Jeremeia Proffwydodd Jeremeia y byddai pobl Israel yn cael eu rhyddhau o Babilon ar ôl saith deg mlynedd (gw. Jeremeia 25:11; 29:10). Dyma fe’n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy’r deyrnas i gyd. Dyma’r datganiad:
23“Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy’n perthyn i’w bobl? Boed i’r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”

Currently Selected:

2 Cronicl 36: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy