YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 3

3
Meibion Dafydd
1Dyma’r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:
Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.
Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. 5A dyma’r meibion gafodd e yno: Shamma,#3:5 Shamma Hebraeg, Shimma – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). Shofaf, Nathan, a Solomon. Mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet, 7Noga, Neffeg, Jaffîa, 8Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid.#3:9 bartneriaid Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. Tamar oedd eu chwaer nhw.
Disgynyddion Solomon
10Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat, 11Jehoram, Ahaseia, Joas, 12Amaseia, Asareia,#3:12 Hebraeg, “Asareia” – enw arall ar Wseia. Jotham, 13Ahas, Heseceia, Manasse, 14Amon, a Joseia 15a’i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.#3:15 Shalwm Enw arall ar Jehoachas mae’n debyg (cf. 2 Brenhinoedd 23:30; Jeremeia 22:11).
16Jehoiacim oedd tad Jehoiachin#3:16 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. a Sedeceia.
Disgynyddion Jehoiachin
17Meibion Jehoiachin (gafodd ei gaethgludo): Shealtiel, 18Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei.
Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw. 20Hefyd pump arall, sef Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
21Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
22Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a’i feibion: Chattwsh, Igal, Barîach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.
23Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
24Meibion Elioenai: Hodafiâ, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.

Currently Selected:

1 Cronicl 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy