YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 1

1
1Can y caniadau, eiddo Solomon. 2Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. 3Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. 4Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu. 5Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon. 6Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais. 7Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
8Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. 9I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd. 10Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni. 11Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
12Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl. 13Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos. 14Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi. 15Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod. 16Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd. 17Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd.

Currently Selected:

Caniad Solomon 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy