YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 1

1
SALM 1
1Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.
2Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
3Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda.
4Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.
5Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn.
6Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

Currently Selected:

Y Salmau 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy